Cerdd Iaith Cerdd Iaith
  • Adnoddau
    • Dechrau
    • Prif
    • Geirfa
    • Themâu
    • Almaeneg
    • Ffrangeg
  • Sut i Ddefnyddio’r Adnodd Yma
    • Sut i Ddefnyddio’r Adnodd Yma
    • Cysylltiadau â’r Cwricwlwm
    • Cysylltu â ni
  • Amdanom ni
    • Amdanom ni
    • Cyfranwyr
  • English
  • Dechrau
  • Prif
  • Geirfa
  • Themâu
  • Almaeneg
  • Ffrangeg
Mynd yn ôl
Dechrau

Mae gweithgareddau ‘Dechrau Arni’ yn cyflwyno’r tair iaith i’r dysgwyr trwy gyflwyno geiriau ac ymadroddion syml. Maent hefyd yn helpu i gynhesu a pharatoi’r meddwl a’r corff; rydyn ni’n dysgu’n fwy effeithiol pan mae pob rhan o’r corff yn rhan o’r gweithgaredd.

Ceir esboniad o amcan pob gweithgaredd yn ogystal â chyfarwyddiadau llawn ar gyfer arwain eich dysgwyr drwyddo ar dudalen y gweithgaredd.

Cliciwch y botymau gwyrdd ar waelod pob tudalen i gael at weithgareddau bwrdd gwyn, cysylltiadau â’r cwricwlwm a geirfa ychwanegol lle bo angen.

Prif

Mae’r gweithgareddau yn yr adran yma’n fwy manwl ac estynedig. Nod y gweithgareddau yma yw helpu i gynyddu hyder y dysgwyr wrth siarad a gwrando ar ieithoedd.

Mae’r adran yma’n cynnwys naw o ganeuon gwreiddiol a gafodd eu cyfansoddi’n arbennig ar gyfer Cerdd Iaith - yn Gymraeg, Sbaeneg a Saesneg. Ar bob tudalen mae disgrifiad byr o’r gweithgaredd ynghyd â ffeiliau sain, fideos, a geiriau a nodiant y caneuon i’ch helpu chi a’ch dysgwyr i gyd-ganu gyda’r cerddorion.

Rydyn ni hefyd wedi cynnwys geirfa ychwanegol lle bo angen.

Geirfa
Themâu
Almaeneg

Gan weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, Goethe Institute, Prifysgol Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion, rydym nawr yn datblygu adnoddau sy’n defnyddio Almaeneg, Cymraeg a Saesneg i athrawon a dysgwyr eu defnyddio yn y dosbarth a gartref. Rhowch gynnig arnyn nhw fan hyn!

 

 

Ffrangeg

Gan weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, rydym nawr yn datblygu adnoddau sy’n defnyddio Ffrangeg, Cymraeg a Saesneg i athrawon a dysgwyr eu defnyddio yn y dosbarth a gartref. Rhowch gynnig arnyn nhw fan hyn!

 

 

  • British Council of Wales
  • Paul Hamlyn Foundation
  • ERW
  • University of Wales Trininty Saint David
  • BBC National Orchestra of Wales
© CerddIaith 2025 | Gwefan gan Tinint